Thomas Griffiths 1776-1808

Mab hynaf Edward a Margaret Griffith, Rhos Fawr, Meifod, - wedi hynny Cefn Du, Cegidfa, - oedd Thomas Griffiths. Ganwyd ef ym Medi, 1776. Yr oedd yn wr ieuanc hawddgar a thirion, ac ymhoffai pawb ynddo. Yr oedd o natur ddwys a meddylgar, a'i fryd ar wneyd daioni.

Hydref 10, 1804 priododd Ann Thomas, - erbyn hyn yn ferch ieuanc amddifad, - ac aeth ati i fyw i Ddolwar Fach. Wedi colli ei briod, gadawodd Ddolwar ym Mai, 1806, a daeth at ei fam i'r Ceunant, Meifod. Wedi ymweled â bedd ei wraig, meddir, y canodd ei emyn, -

"Rwy'n cael arwyddion amlwg."

Mewn hiraeth angerddol am dani, ac mewn gwaith selog gyda'r Ysgol Sul, y treuliodd weddill byrr ei oes. Bu farw yn 1808, a chladdwyd ef ym Meifod. Ysgrifenwyd bywgraffiad iddo gan John Hughes.

Cyhoeddwyd ei emynnau gan Erfyl yn 1817; codir hwy i'r dalennau sy'n dilyn o argraffiad Morris Davies.

Owen M Edwards 1858-1920
Gwaith Thomas Griffiths 1909

Thomas Griffiths was the eldest son of Edward and Margaret Griffiths of Rhos Fawr, Meifod, - later of Cefn Du, Cegidfa. He was born in September 1776. He was a handsome and gentle young man, and everyone was fond of him. He was of a serious and thoughtful nature, intent on doing good.

On October 10th, 1804 he married Ann Thomas, - by then a young orphaned girl, - and he went to live with her in Dolwar Fach. After losing his spouse, he left Dolwar in May, 1806, and went to his mother's in Ceunant, Meifod. It was after visiting his wife's grave, it is said, he sang his hymn, -

"Rwyn'n cael arwyddion amlwg." - ("I am getting clear signs.")

It was in intense longings for her, and in zealous work with the Sunday School, that he spent the remainder of his short life. He died in 1808, and was buried in Meifod. A biography of him was written by John Hughes.

His hymns were published by Erfyl in 1817; they are lifted for the following pages from the printing of Morris Davies.

Owen M Edwards 1858-1920 (tr. 2025 Richard B Gillion)
Gwaith Thomas Griffiths (The Work of Thomas Griffiths) 1909

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~